Ardal Cadwraeth Arbennig Bae Ceredigion (ACA)
Hafan

Dolffiniaid trwynbwl
Ffotograff gan David Cunniffe
Yn ymestyn o Fae Ceibwr yn Sir Benfro i Aberarth yng Ngheredigion ac yn ymestyn bron 20km o’r arfordir, mae Ardal Cadwraeth Arbennig Bae Ceredigion (ACA) yn diogelu’r bywyd gwyllt a geir o fewn i tua 1000km2.
Mae deheubarth Bae Ceredigion yn gartref i amrywiaeth rhyfeddol o rywogaethau, o lyngyr-creigres i boblogaeth fwyaf Ewrop o ddolffiniaid trwynbwl; prin yw’r lleoedd lle gellir gweld yr anifeiliaid eiconig ac arbennig hyn yn haws yn y gwyllt.
Mae ACA Bae Ceredigion yn dathlu amgylchedd morol cyfoethog sy’n llawn bywyd gwyllt, ac sy’n byw wrth ymyl y dolffiniaid trwynbwl y dynodwyd y safle’n wreiddiol ar eu cyfer. Mae’r ACA yn gartref i boblogaeth sylweddol o forloi llwyd yr Iwerydd, a gellir dod o hyd i lysywod pendoll y môr a’r afon yma hefyd.
Gellir gweld y llamhidydd harbwr, cefnder llai a swil y dolffin trwynbwl, yma drwy gydol y flwyddyn; tra bod pysgod haul, heilgwn a chrwbanod môr cefn-lledr yn ymwelwyr haf achlysurol. Adar môr fel gwylogod, llursod, gwylanod coesddu ac adar drycin y graig yn ymgynnull yma mewn cydgyfuniadau mawr yn ystod tymor bridio’r haf, tra gellir gweld huganod yn plymio pell o’r lan. Mae dyfroedd bas Bae Ceredigion hefyd yn darparu cynefinoedd pwysig ar gyfer bywyd morol lliwgar ymhlith ei greigresi, banciau tywod ac ogofâu môr.
Mae saith nodwedd ar gyfer cadwraeth y mae wedi’i dynodi ar eu cyfer:
- Dolffiniaid trwynbwl (Tursiops truncatus)
- Morlo Llwyd yr Iwerydd (Halichoerus grypus)
- Llysywod Pendoll y môr (Petromyzon marinus)
- Llysywod Pendoll yr afon (Lampetra fluviatilis)
- Creigresi
- Banciau tywod (a orchuddir ychydig gan ddŵr y môr bob amser)
- Ogofâu môr (tanddwr neu wedi’u gorchuddio’n rhannol)
ACA Forol Gorllewin Cymru – gerllaw arfordir Cymru o Benrhyn Llŷn yn y Gogledd, i Sir Benfro yn y De-orllewin, adnabwtd ACA Forol Gorllewin Cymru fel ardal sy’n bwysig i llamhidyddion harbwr. Mae ACA Forol Gorllewin Cymru yn cwmpasu ACA Bae Ceredigion yn ei gyfanrwydd.
Creigres llyngyr diliau neu seiri tywod
Ffotograff gan Melanie Heath

