Llamhidydd yr harbwr
Lleolir AGA Gorllewin Cymru Forol oddi ar arfordir Cymru rhwng benrhyn Llŷn yn y gogledd a Sir Benfro yn y de-orllewin. Nodwyd bod AGA Gorllewin Cymru Forol yn faes pwysig i’r llamhidydd harbwr. Mae’r safle dair gwaith maint Parc Cenedlaethol Eryri ac yn cwmpasu 7,376 km2.
Mae’r AGA hon yn gorgyffwrdd â nifer o ACA eraill gan gynnwys rhannau o AGA Sir Benfro Forol ac AGA Pen Llŷn a’r Sarnau, ac mae’n cwmpasu AGA Bae Ceredigion yn gyfangwbl.

Map AGA Gorllewin Cymru Forol (Joint Nature Conservation Committee)

ffotograff column 2 a 3: Janet Baxter
Llamhidydd yr harbwr yw cefnder llai, mwy swil a mwy cyfrinachgar y dolffiniaid. Yn y gorffennol, arferai llamhidydd yr harbwr gael ei alw y ‘mochyn chwythlyd’ oherwydd y sŵn a wna pan fydd yn dod i’r wyneb i anadlu.
Mae llamhidydd yr harbwr yn aeddfedu’n rhywiol pan fydd yn dair i bump oed. Bydd llamhidydd yr harbwr yn rhoi genedigaeth i lo bach bob un i ddwy flynedd, rhwng Mai ac Awst fel arfer. Y cyfnod cario yw un ar ddeg mis, a chaiff lloeau eu diddyfnu pan fyddant rhwng wyth mis a blwydd. Mae ei gyfradd atgenhedlu isel yn golygu bod ei boblogaeth mewn perygl o ddirywio.
Prin yw’r rhai sy’n byw i fod yn hŷn na naw i ddeuddeg oed, er bod rhai anifeiliaid wedi cael eu cofnodi hyd at dair ar hugain oed.
Golwg
Mae llamhidydd yr harbwr yn un o’r anifeiliaid lleiaf yn nheulu’r dolffiniaid a’r llamhidyddion, ac yn mesur llai na hanner maint dolffin trwynbwl.
Mae llamhidydd yr harbwr aeddfed yn mesur 1.4 – 1.9 metr yn unig, ac mae’r fenyw ychydig yn fwy na’r gwryw.
Yn wahanol i’w perthnasau y dolffiniaid, nid oes gan lamhidydd yr harbwr dalcen ‘melon’, amlwg a dim pig.
Mae’r pen yn fach ac yn grwn, ac mae’r geg yn troi tuag at i fyny, fel pe bai’n gwenu.
Ymddygiad Gellir gweld y mamaliaid morol bach, anodd eu gweld ond arbennig iawn yma mewn dŵr gweddol bas, llai na 200 metr o ddyfnder, yn enwedig mewn llifoedd llanw ac o gwmpas penrhynion. Gallant blymio am hyd at chwe munud. Mae eu maint bach, eu hasgell ddorsal drionglog, fach, a’r rholio ysgafn wrth iddynt ddod i’r wyneb i anadlu yn nodweddion arbennig i gadw golwg amdanynt.
Prin iawn y bydd llamhidydd yr harbwr yn ymddwyn mewn ffordd chwareus, sy’n dal sylw, ac nid yw’n neidio’n acrobatig, yn llamu ac yn slapio’r cynffon fel y dolffin trwynbwl.
Mae’n nofio’n araf fel arfer ac i’w weld yn unigol neu mewn grwpiau bwydo bach yn aml. Y grŵp cymdeithasol mwyaf cyffredin yw’r fam a’r llo. Fel arfer bydd yr anifeiliaid swil yma yn osgoi cychod ac unrhyw beth arall ar y dŵr. Gan eu bod yn fach mae’n rhaid iddynt fwydo’n gyson i gynnal tymheredd eu corff yn ein moroedd oer, ac mae hyn yn golygu bod gor-bysgota yn gallu arwain at ddirywiad yn eu hadnoddau bwyd. Maent yn bwydo’n bennaf ar rywogaethau o bysgod sy’n byw ar waelod y môr, fel llymrïod, sy’n golygu eu bod mewn perygl o gael eu dal fel ‘sgil-ddalfa’ – trwy fynd ynghlwm yn ddamweiniol mewn rhwydi pysgota. Mae llamhidydd yr harbwr hefyd yn bwydo ar bysgod heigiog fel y pennog a’r gwyniad. Fel arfer byddant yn dilyn symudiadau ysglyfaethu tymhorol, gan symud i’r lan yn yr haf ac allan i’r môr yn y gaeaf.
Bygythiadau Y bygythiad mwyaf ar hyn o bryd i lamhidydd yr harbwr trwy ei amrediad yw sgil-ddalfa’ – ei ddal yn ddamweiniol mewn rhwydi pysgota sy’n arwain at filoedd o farwolaethau bob blwyddyn. Mae dirywiad yn y boblogaeth hefyd wedi cael ei gysylltu â llai o adnoddau bwyd, efallai oherwydd gor-bysgota. Mae’n anifail anodd ei weld ac felly mae’n anodd ei astudio; nid yw gwyddonwyr yn gwybod llawer iawn am ymddygiad llamhidydd yr harbwr ac mae ymchwil yn canolbwyntio’n bennaf ar yr anifeiliaid sy’n cael eu lladd fel sgil-ddalfa mewn rhwydi pysgota neu gyrff meirw sy’n dod i’r lan.
Mae tystiolaeth newydd yn awgrymu fod llamhidydd yr harbwr efallai yn ei chael hi’n anodd i atgenhedlu’n llwyddiannus oherwydd lefelau uchel o lygredd.
Os ydych yn gweld llamhidydd yr harbwr rhowch wybod i’r Swyddog Ardal Warchodedig Forol trwy wefan Ardal Cadwraeth Arbennig Bae Ceredigion.
www.cardiganbaysac.org.uk
Os ydych chi’n gweld llamhidydd yr harbwr pan fyddwch ar y môr, cadwch bellter o 100m oddi wrtho o leiaf a dilynwch God Ymddygiad Morol Ceredigion