Er bod llawer wedi mwynhau eu hymweliad heb unrhyw effaith amlwg ar y rhywogaethau a’r cynefinoedd gwarchodedig, cynyddodd digwyddiadau aflonyddu gan gynnwys:
- Defnyddwyr dŵr (cychod modur, caiacau a byrddau padlo sefyll) yn agosáu at famaliaid morol yn rhy agos,
- Defnyddwyr dŵr yn teithio trwy rafftiau o adar yn gorffwys ar y môr ac yn mynd yn rhy agos at eu safleoedd nythu ar glogwyni, gan anfon yr adar i hedfan.
- Aflonyddu morloi sydd wedi llusgo eu hunain allan o’r dŵr ac ar y creigiau i orffwys.
- Aflonyddu morloi bach gan bobl yn ceisio edrych yn agosach, i dynnu lluniau neu hyd yn oed ‘selfies’ gyda’r anifail.
Arwyddion aflonyddwch:
Adar y môr – pennau’n ymsymud, adenydd yn fflapio, galwadau larw.
Rhy hwyr! – Mae’r adar yn hedfan, yn colli amser gorffwys, mae wyau a chywion yn agored i ysglyfaethu ac yn cael eu bwrw oddi ar eu silffoedd nythu.
Dolffiniaid a llamhidyddion – symud i ffwrdd o’r cwch, caiac neu fwrdd, slapio cynffon, llamu, cymryd plymiadau hirach, grwpio gyda’i gilydd, grŵp yn gwahanu.
Rhy hwyr! – Mae’r anifeiliaid yn cael eu symud oddi ar ardal fwydo, neu’n colli amser gorffwys a chymdeithasu pwysig.
Morloi – Os ydyn nhw’n codi eu pennau i edrych arnoch chi – rydych chi’n rhy agos!
Rhy hwyr! – Mae’r morlo yn dychwelyd i’r dŵr i deimlo’n ddiogel, gan fyrhau amser gorffwys a gallant anafu eu hunain wrth ruthro. Yn ystod misoedd yr haf, mae morloi beichiog yn arbennig o agored i’w haflonyddu.
Oherwydd maint ACA Bae Ceredigion, rydym yn gofyn i aelodau’r cyhoedd a’n rhanddeiliaid ein gwneud yn ymwybodol o’r materion hyn. Helpwch ni i reoli Ardal Gadwraeth Arbennig Bae Ceredigion trwy roi gwybod i ni am unrhyw weithgareddau hamdden yr ydych chi’n meddwl a allai beri aflonyddwch i fywyd gwyllt. Gellir llenwi’r ffurflen yn ddienw. Diolch.
Riportiwch aflonyddwch