Morloi Llywydion

 

 

Gwyddys bod morloi llwyd yn byw ledled yr AGA ac amcangyfrifwyd bod tua 66 o forloi bychain yn cael eu geni ar draethau yr AGA bob blwyddyn.

At hynny, mae astudiaeth dagio sy’n modelu defnydd o Fôr Iwerddon gan morloi llwyd wedi canfod ardal o ddefnydd uchel yn rhan ddeheuol Bae Ceredigion tua 40-50 km o’r lan.

Credir bod ymborth morloi llwyd yng Ngorllewin Cymru yn cynnwys gwyniaid môr, pysgod lledod, ysgadan/penwaig a bwganod dw^r / physgod bwyell yn bennaf.

Tymor bwrw morloi bychain (mis Medi – mis Tachwedd) – beth allwch chi ei wneud i helpu?

Fel dolffiniaid Bae Ceredigion, rydym yn gwybod bod morloi’n chwilota neu dwlmlo am fwyd, yn bridio ac yn cymdeithasu yn yr ardal. Gallwch helpu drwy wneud pob ymdrech i beidio ag amharu ar eu mynd a dod, yn enwedig pan fyddant ar y lan gyda’u rhai bach.

Mae morloi yn aml yn llusgo allan o’r môr ar draethau, glannau creigiog ac mewn ogofâu môr; mae hyn yn rhan o’u hymddygiad arferol ac yn rhoi amser iddynt dreulio eu bwyd ac i orffwys. Felly nid yw dod o hyd i forlo ar y traeth yn golygu o reidrwydd bod yr anifail yn sâl neu wedi’i anafu.

Mae hyn yn arbennig o wir yn ystod y tymor ‘bwrw morloi bychain’, oherwydd ar yr adeg hon gall morloi ifainc yn aml ymddangos fel eu bod wedi’u gadael. Nid yw hyn yn wir fel arfer, gan eu bod yn cael eu gadael ar y traeth tra bod eu mamau allan yn fchwilio am fwyd, a dylid eu gadael heb eu cyffwrdd. Ni ddylid mynd ar ôl morloi bychain yn ôl i’r môr – gan fod hyn yn achosi gofid sylweddol i’r morlo bach ac yn eu hatal rhag gwneud yr hyn y mae angen iddynt ei wneud ar yr adeg hon – gorffwys a thyfu. Mae morloi bychain sydd wrth y deth hefyd yn nofwyr gwael. Bydd y fenyw ar y môr fel arfer, ond ni fydd yn dychwelyd at yr un bach os oes pobl o gwmpas ar y traeth, a gall aflonyddwch fygwth y cysylltiad rhwng y fam a’r un bach.

Ar ôl tywydd stormus bydd morloi’n aml yn llusgu eu hunain allan o’r môr i orffwys ac i adennill eu cryfder. Nid oes angen cymorth ar lawer ohonynt, ond os ydych yn pryderu am les morlo, cysylltwch â’r Swyddog Ardal Forol Gwarchodedig, BDMLR neu RSPCA (manylion cyswllt isod).

Peidiwch â cheisio symud yr anifail eich hun.

Os ydych chi’n poeni am aflonyddiad i forlo bach ar arfordir Ceredigion, cysylltwch â’r Swyddog Ardal Forol Garchodedig Bae Ceredigion, Melanie Heath ar melanie.heath2@ceredigion.gov.uk neu ffoniwch 07707856891. Mewn achosion brys lle’r ydych yn credu bod yr anifail yn sâl neu wedii anafu, rhowch wybod i’r RSPCA ar 0300 1234 999 neu’r British Diver Marine Life Rescue ar 01825 765546.

Peidiwch â cheisio symud yr anifail eich hun.


 

Disgrifiad: Mae’r gwrywod neu ‘deirw’ yn tyfu hyd at 3m ac maent yn dywyll ar y cyfan na’r menywod neu ‘ wartheg ‘ sy’n tyfu hyd at 1.7 m yn unig. Mae’r morloi bychain yn wyn adeg eu geni, ond yn troi’n lliw llwyd o fewn yr wythnosau cyntaf. Mae ganddynt gorff llifliniog, gyda thrwyn a llygaid mawrion.

Ymddygiad: yn aml, gellir eu gweld yn dod i wyneb y môr ger y draethlin wrth hela a bwydo, ond gallant hefyd fynd allan i’r môr am gyfnodau hir. Bydd morloi’n plymio am oddeutu wyth munud wrth fforio am fwyd, ond tra byddant yn gorffwys, neu’n cysgu, gallant aros o dan y dwr am hyd at 13 munud.

Bwyd: pysgod, molysgiaid, cramenogion / crestenogion.

Atgenhedlu: Mae morloi benyw yn geni un morlo bach y flwyddyn yn ystod yr hydref,  ar draethau diarffordd y Bae ac mewn ogofâu môr.

Poblogaeth: Mae’r DU yn gartref i tua 124,000 o forloi llwyd (tua 39% o boblogaeth y byd). Amcangyfrifir bod poblogaeth de-orllewin Cymru tua 5,000.

Niferoedd lleol: Amcangyfrifir bod tua 66 o forloi bychain yn cael eu geni yn yr ACA bob blwyddyn, tua 17 ohonynt rhwng Ynys Lochtyn a Phen y Clogwyn Ceinewydd