Dolffin trwynbwl
Mae Bae Ceredigion yn un o ddim ond dwy ardal o amgylch y DU sy’n cynnal poblogaeth lled-breswyl o ddolffiniaid trwynbwl. Mae’r boblogaeth fwyaf yma ym Mae Ceredigion; mae poblogaeth lled breswyl hefyd yn y Moray Firth yn yr Alban. Y dolffiniaid trwynbwl sy’n byw o gwmpas Ynysoedd Prydain yw’r dolffiniaid mwyaf yn y byd!
Mae hanner deheuol Bae Ceredigion yn ardal fwydo a bridio pwysig dros yr haf ar gyfer yr anifeiliaid hyn. Defnyddiant y dyfroedd hyn i feithrin a bwydo eu hifainc, cymdeithasu a gorffwys. Maent hefyd yn cael eu gweld yn aml yn slapio’u cynffonau ac yn neidio o’r dwˆr – neidio sawl metr allan o’r dŵr!
Mae dolffiniaid trwynbwl yn cyrraedd aeddfedrwydd rhywiol pan fyddant tua ddeuddeg mlwydd oed ac mae benywod yn rhoi genedigaeth i un llo rhwng mis Ebrill a mis Hydref. Mae lloi yn ddibynnol ar laeth eu mamau am tua dwy flynedd, ac fel arfer maent yn aros gyda’u mamau nes eu bod tua chwe blwydd oed. Yn ystod yr amser hwn mae’n rhaid i’r ifainc ddysgu sut i ddal eu hysglyfaeth, sut i osgoi peryglon, a sut i ddod o hyd i’w ffordd o amgylch eu cynhwfin cartref. Gall dolffiniaid trwynbwl fyw am hyd at 50 o flynyddoedd.
Mae dolffiniaid trwynbwl yn borthwyr manteisgar, gallant addasu eu hymddygiad bwydo i amgylchiadau lleol a ffynonellau bwyd. Maent yn bwydo ar ystod eang o bysgod sy’n heidio ac o rywogaethau sy’n byw ar wely’r môr, a hefyd môr-lewys a chramenogion.

Dolffiniaid trwynbwl
Ffotograff gan David Cunniffe

Dolffiniaid trwynbwl
Ffotograff gan David Cunniffe

Dolffiniaid trwynbwl
Ffotograff gan David Cunniffe
Mae dolffiniaid trwynbwl wed’u dosbarthu’n eang; dyfroedd pegynol yw’r unig ranbarth lle maent yn absennol. Anifeiliaid arfordirol ydynt yn bennaf ac yn aml yn fynych yng nghenefinoedd ger y lan. Ledled y byd, mae dolffiniaid trwynbwl dan fygythiad oherwydd rhyngweithiadau pysgodfeydd, llygredd, diraddio cynefinoedd a dylanwadau anthropogenig eraill.
Mae dolffiniaid trwynbwl yn rhywogaeth sydd yn symudol iawn gyda chynhefin eang. Mae unigolion a gofnodir yn rheolaidd ar hyd arfordir deheuol Bae Ceredigion hefyd wedi’u gweld i’r Gogledd ac i’r de o’r ACA. Mae’n hysbys bod dros 300 o ddolffiniaid trwynbwl yn defnyddio Bae Ceredigion, tua 200 mewn unrhyw flwyddyn, gyda’r niferoedd yn cynyddu drwy gydol yr haf ac yn cyrraedd uchafbwynt ddiwedd mis Medi a mis Hydref.
Yr arfordir rhwng Cei Newydd a Phen Cemaes yw’r ardal gyda’r ymdrech arsyllu, arolygu a gwyliio uchaf dros y blynyddoedd, gyda dolffiniaid yn aml I’w gweld yn yr ACA oddi ar bentiroedd ac mewn ardaloedd mwy cysgodol ger Aberystwyth, Cei Newydd, Ynys Lochtyn, Aberporth, Mwnt ac aber Afon Teifi.
Ffeil ffeithiau Dolffiniaid trwynbwl
Disgrifiad: Mae dolffiniaid trwynbwl yn tyfu i hyd ar gyfartaledd o 3.1 i 3.7 medr (10 – 12 troedfedd), gan gyrraedd hyd at 4m yn nyfroedd y DU lle y maent yn y man pellaf tua’r gogledd
Ymddygiad: Ymddengys bod dolffiniaid trwynbwl yn defnyddio Bae Ceredigion ar gyfer pob gweithgarwch hanfodol gan gynnwys bwydo, cymdeithasu a magu eu rhai bach ac mae’n well ganddynt ardaloedd lle y mae’r cerhyntau llanw yn gryf ger y penrhynion a’r aberoedd.
Deiet: pysgod, cramenogion a molysgiaid
Atgynhyrchu: Mae’r gwrywod yn cyrraedd aeddfedrwydd rhywiol yn 10-12 oed tra y gall y benywod ddechrau atgynhyrchu rhwng 5 a 12 oed. Mae’r benywod yn rhoi genedigaeth i un llo bob 4 i 6 mlynedd ar ôl cyfnod cyfebru o 12 mis. Bydd y lloi yn sugno’r deth am 18 i 24 mis, ond gall y berthynas agos rhwng y llo a’i fam bara hyd at 6 mlynedd.
Niferoedd lleol: Gwyddom fod mwy na 300 o ddolffiniaid trwyn potel ym Mae Ceredigion, oddeutu 200 mewn unrhyw un flwyddyn, gyda niferoedd yn cynyddu yn ystod yr haf, gan gyrraedd uchafbwynt yn niwedd Medi a Hydref.