Canolfan Ymwelwyr Ardal Warchodedig Forol Bae Ceredigion

 

Mae Canolfan Ymwelwyr yr Ardal Warchodedig Forol mewn adeilad ar fur yr Harbwr yng Nghei Newydd. Yma, gallwch ddefnyddio’r binocwlars i weld wylio anifeiliaid a allai fod o allan yn y bae. Mae gennym hefyd ddau gamera wedi’u gosod ar do’r adeilad y gallwch eu symud er mwyn edrych yn fanylach ar unrhyw anifeiliaid sydd o gwmpas. Yn ogystal, mae gwybodaeth am y bywyd gwyllt a’r cynefinoedd arbennig y gellir eu gweld yma, a gemau rhyngweithiol i gyfleu negeseuon allweddol.

Gallwch hefyd gymryd yr olwyn llong a chwarae’r gêm y Cod Morol. Mae’r gêm hwyliog hon i hen ac ifanc yn rhoi cyfle i chi ddarganfod beth y dylech ei wneud pan fyddwch yn dod ar draws dolffiniaid, llamhidyddion, morloi, adar y môr a bywyd gwyllt morol arall ar y môr.

Mae gorsaf wrando lle gallwch glywed recordiadau o gliciau a chwibanau o ddolffiniaid Bae Ceredigion; neu gallwch wrando ar stori Dixie y Dolffin.

Bydd y Ganolfan ar agor rhwng y Pasg a mis Hydref pan fydd adnoddau staffio yn caniatáu, yn hytrach nag ar ddiwrnodau/amserau penodol; ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra.

 

 

Ffotograffs gan Melanie Heath