Cod Morol Ceredigion

Defnyddwyr dŵr: gallwch wneud gwahaniaeth!

Mae Bae Ceredigion o bwysigrwydd rhyngwladol ar gyfer ei fywyd morol, gan gynnwys y boblogaeth fwyaf o ddolffiniaid trwyn potel yn Ewrop. Mae dolffiniaid, llamhidyddion, morloi ac adar y môr yn ffynnu yma am ei fod yn cynnig popeth sydd ei angen arnynt i fyw a magu eu hifainc. Diogelir anifeiliaid y môr fel dolffiniaid, llamhidyddion, morloi a adar y môr gan y gyfraith ac maent yn hawdd eu haflonyddu a gwrthdaro.

Cychod cyflym, symudadwy iawn sy’n cyflwyno’r bygythiadau mwyaf i’r anifeiliaid hyn. Pam? Oherwydd gall y sŵn o dan y dŵr o’u propelwyr effeithio ar eu gallu i gyfathrebu, llywio a hela am ysglyfaeth.

Y cyflymaf mae cwch yn teithio y fwyaf swnllyd y mae, a’r lleiaf tebygol ydyw y bydd y gyrwr/aig yn gweld unrhyw famaliaid morol neu adar y môr o’u blaenau. Nid cychod modur yn unig sy’n tarfu ar fywyd gwyllt fodd bynnag. Pan mae unrhyw fath o gwch, gan gynnwys kayaks, byrddau padlo a chychod hwylio, yn mynd at yr anifeiliad bydd yr anifeiliaid yn tueddu i beidio â gwneud yr hyn yr oeddynt yn ei wneud, megis bwydo, a byddent yn symud i ffwrdd. Gall tarfu dro ar ôl tro, yn enwedig mewn ardaloedd bwydo pwysig, leihau cyfleoedd yr anifeiliaid i oroesi a gall eu gorfodi o’r ardal yn gyfan gwbl. Mae menywod â lloi ifanc yn arbennig o agored i niwed.

Mae canlyniadau ‘ gwylio dolffiniaid a llamhidyddion’ yn dangos bod dilyn Cod Morol Ceredigion yn wiry n lleihau aflonyddwch. Mae ein gwaith monitro yn dangos bod dolffiniaid yn fwy tebygol o fynd at gychod pan ddilynir Cod Morol Ceredigion.

Cod Ymddygiad Morol Defnyddwyr Dŵr Ceredigion (PDF)

Dosbarthir y Cod i bob deiliad angorfa yn harbyrau Ceredigion. Mae hefyd ar gael i ymwelwyr sy’n lansio o harbyrau Ceredigion. Mae paneli gwybodaeth sy’n hysbysu defnyddwyr dŵr am God Morol Ceredigion ac ACA Bae Ceredigion wedi’u lleoli mewn safleoedd lansio.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Swyddog Ardal Morol Gwarchodedig Bae Ceredigion, Melanie Heath: melanie.heath2@ceredigion.gov.uk neu ffoniwch 01545 561074.

Lluniau: ar y dde uchaf – pobl yn canŵio ac yn defnyddion byrddau padlo ddim yn dilyn y Cod Morol ac yn agosáu’n uniongyrchol at ddolffin â llo. Mae pob un ohonynt hefyd yn llawer rhy agos gan ein bod yn gofyn i ddefnyddwyr y dŵr gadw 200 metr oddi wrth anifeiliaid.

waelod dde – cwch hamdden nad yw’n dilyn y Cod Morol ac yn mynd i mewn i ardal lle mae morloi yn tynnu allan o’r  môr ger Craig yr Adar. Mae’r cwch hefyd yn agos at y nythfeydd bridio adar y môr.

 Ffotograff gan Melanie Heath