Gwneud eich rhan
Beth am edrych yn fanylach ar y materion a nodir isod a gweld beth allwch chi ei wneud i’n helpu ni i warchod dolffiniaid a bywyd gwyllt arall Bae Ceredigion?
Rhowch wybod! Ydych chi wedi gweld unrhyw rywogaethau anarferol ar y môr neu ar hyd arfordir yr AGA? Os felly – beth am roi gwybod am yr hyn a weloch a helpu gyda’r dasg bwysig o fonitro helaethrwydd a mudo rhywogaethau ar hyd ein harfordiroedd. Anfonwch e-bost at Melanie Heath, swyddog ardal morol gwarchodedig Bae Ceredigion trwy melanie.heath2@ceredigion.gov.uk.
Gallwch hefyd gyfrannu at wefan rhwydwaith gwybodaeth bywyd morol (MarLIN) sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am rywogaethau morol y DU. https://www.marlin.ac.uk/


Uchod: glanhau’r traeth gyda Ysgol Gynradd Aberaeron a’r Swyddog AGA, Traeth De Aberaeron, llun gan Melanie Heath.
Does neb yn hoffi gweld sbwriel ar ein traethau. Nid yn unig y mae’n anneniadol, ond mae rhai o’n hoff fywyd gwyllt morol o dan fygythiad oherwydd y cynnydd yn y sbwriel yn ein moroedd; bob blwyddyn mae cannoedd o anifeiliaid yn marw oherwydd mynd yn sownd mewn sbwriel neu’n llyncu ysbwriel, yn enwedig gwastraff plastig. Gall sbwriel hefyd ryddhau cemegau gwenwynig i’r amgylchedd. Mae’r cemegau yn gallu biogronni yn y gadwyn fwyd ac effeithio ar system imiwnedd a ffrwythlondeb ysglyfaethwyr uchaf fel mamaliaid morol.
Yn anffodus, mae’r tueddiad yn glir bod sbwriel ar ein harfordir ac yn ein moroedd yn cynyddu.
Drwy gymryd dau gam syml, gallwch ein helpu i gadw’r amgylchedd lleol yn lân ac yn ddiogel er budd bywyd gwyllt lleol.
Gwaredwch ar eich ysbwriel yn ofalus – ewch â’ch sbwriel adref neu defnyddiwch y biniau a ddarperir. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ailddefnyddio neu’n ailgylchu’r hyn a allwch.
Cofiwch ofalu am eich offer pysgota! – Mae offer pysgota yn niweidiol iawn i fywyd y môr, ewch â’ch holl gêr adref gyda chi.
‘Mabwysiadwch’ eich hoff draeth neu ddarn o arfordir: cysylltwch â ni os hoffech gael help i drefnu casglu sbwriel ar eich traeth lleol.
Isod: Glanhau’r traeth, Traeth y Dolau, Ysgol Cei newydd gyda’r Swyddog AGA

Ddweud eich dweud! Dywedwch wrthyn ni beth rydych chi’n ei feddwl.
Mae’r rheolaeth dda ar Ardal Gadwraeth Arbennig Bae Ceredigion yn dibynnu ar fewnbwn y bobl hynny sy’n ei hadnabod ac yn ei thrysori. Pa un a ydych yn byw ar ei lannau, yn ennill bywoliaeth o’i ddyfroedd neu’n gwerthfawrogi ei fywyd gwyllt, yr ydym am glywed gennych. O’r camau cynllunio cychwynnol hyd heddiw mae’r Awdurdodau Perthnasol sy’n gyfrifol am reoli’r AGA wedi cydnabod pwysigrwydd cyfraniad a chefnogaeth y cyhoedd. Croesewir barn pawb, felly cysylltwch â ni gydag unrhyw sylwadau neu gwestiynau sydd gennych.
Fel pwynt cyswllt cyntaf, cysylltwch â Melanie Heath, Swyddog Ardal Forol Gwarchodedig Bae Ceredigion ar:
E bost: melanie.heath2@ceredigion.gov.uk
Rhif ffôn: 01545 561074
Llythyr: Swyddog Ardal Forol Bae Ceredigion, yng ngofal Cyngor Sir Ceredigion, Adran Yr Arfordir a Chefn Gwlad, Penmorfa, Aberaeron, Ceredigion SA46 0PA.
Ffotograffs gan Melanie Heath