Anifeiliaid ar y lan neu’r traethlin

 

Cadwch 50 metr oddi wrth morloi bychain neu famaliaid morol sy’n ar y lan neu’r traethlin.
Os yw morlo bychan ar ei ben ei hun ar draeth, fel arfer nid yw yn adawedig. Mae hyn yn rhan o’u hymddygiad arferol. Peidiwch â cheisio ei symud.
Mae ei fam fel arfer gerllaw yn y dŵr, felly cadwch draw fel y gall y fam ddychwelyd at ei morlo bychan pan mae angen iddi wneud hynny.
Ni ddylid hel morloi bychain i’r môr – maent yn nofwyr gwael ac mae angen iddynt dreulio’u hamser yn gorffwys ac yn tyfu.
Gwyliwch o bell. Peidiwch â mynd at yr anifail.
Ar ôl tywydd stormus a llanw uchel, mae’n arferol i forloi ddod allan ar draethau i orffwys. Nid oes angen cymorth cyntaf arnynt fel arfer. Mae’n bwysig osgoi eu haflonyddu gan bobl a chŵn.
Fodd bynnag, os ydych yn pryderu am les morlo oherwydd eich bod yn credu bod yr anifail yn sâl neu wedi cael anaf, ffoniwch yr RSPCA ar 0300 1234 999 neu’r BDMLR ar 01825 765546.
Peidiwch â cheisio symud nac ymyrryd â’r anifail eich hun.

 

(Uchod) Dolffin trwynbwl yn cael ei symud ar gyfer ymchwiliad awtopsi. Llun gan Lin Gander, Cetacean Strandings Investigation Programme rhaglen ymchwilio Strandings Cetacean (CSIP).

(Uchod ) Morlo Bychan, arfordir Ceredigion, Llun gan David Horsley.

(Uchod) Llamhidydd ar y traethlin, Aberaeron. Llun gan Rod Penrose, Cetacean Strandings Investigation Programme (CSIP).

Arwyddion y gallai rhywbeth fod o’i le yw;
Gadawedig
– sef morlo bychan a rei ben ei hun ar draeth yr ydych wedi ei wylio o bellter ac nid yw ei fam wedi cael ei gweld yn y môr nac yn dod i’r lan i’w bwydo am o leiaf 6 – 8 awr.
Tenau – gall asennau, cluniau a gwddf a chroen crychlyd fod yn arwyddion o ddiffyg maeth
Anaf – arwyddion gweladwy o anaf, trychiadau yn y croen neu chwyddo, neu ynglwm mewn rhaffau
Yn sâl – Mae arwyddion o afiechyd yn cynnwys peswch, tisian neu anadlu’n swnllyd ac yn gyflym, mwcws trwchus yn dod o’r trwyn, llygaid cymylog neu wedi’u gorchuddio a mwcws, un llygad ar gau y rhan fwyaf o’r amser;
Cysgadrwydd – Morlo yn dangos ychydig o ymateb i unrhyw aflonyddwch sy’n digwydd o’i amgylch (er cofiwch y gallent fod yn cysgu).

Os dewch chi o hyd i forfil, dolffin neu llamhidydd yn fyw:
Nid yw’r anifeiliaid hyn yn dod i’r traeth o dan amgylchiadau arferol, a bydd angen cymorth arnynt.
Ffoniwch yr RSPCA yn syth ar 0300 1234 999 neu’r British Divers Marine Life Rescue ar 01825 765546 neu 07787 433412.

Pethau pwysig y gallwch eu gwneud i helpu yw:

Daliwch yr anifail i fynny a palwch ffosydd o dan yr esgyll dwyfronnol.
Gorchuddiwch yr anifail â chynfasau neu llieiniau, neu dyweli gwlyb (gwymon hyd yn oed) a’i gadw’n llaith drwy ei chwistrellu neu eu trochi gyda dŵr

Peidiwch â gorchuddio na gadael i unrhyw ddŵr fynd i lawr y ffroen, sydd ar ben pen yr anifail. Bydde hyn yn achosi peryg a diffyg mawr i’r anifail a gallai ei ladd.

Mae’n iawn i gynnal dolffin neu llamidydd llai ei faint yn y dŵr, cyn belled â bod y ffroen yn cael ei gadw uwchben y dŵr bob amser, a chyhyd â’i fod yn cael ei gludo i’r dŵr yn ofalus, e.e. mewn tarpolin (Peidiwch â’i lusgo na’i godi wrth ei esgyll na’i gynffon).

Peidiwch â rhyddhau’r anifail i’r môr o dan unrhyw amgylchiadau, cyn i’r tîm achub gyrraedd.

Os ydych yn dod o hyd i anifail ar y traeth sydd wedi marw, cysylltwch â Rod Penrose yn nhîm Cetacean Strandings Investigation on 0800 6520333. 

Mae rhagor o wybodaeth am Cetacean Strandings Investigation Programme (CSIP) ar gael trwy http://ukstrandings.org/

I lawrlwytho taflen ar famaliaid morol ar y traethlin, cliciwch ar y linc isod:
http://ukstrandings.org/CSIP_leaflet.pdf