Codi Ymwybyddiaeth

 

Un o’r gwersi allweddol a ddysgwyd ers sefydlu’r ardal forol warchodedig wirfoddol – yr Arfordir Treftadaeth Forol – yn 1992, yw bod addysg yn ddull rheoli hanfodol bwysig.

Drwy roi gwybod i bobl am y problemau posibl i’r boblogaeth o ddolffiniaid trwynbwl sydd yn codi gan rhai gweithgareddau hamdden, yn enwedig defnyddio cychod a gwylio dolffiniaid, gellir cyflawni llawer i gyfyngu ar unrhyw effeithiau negyddol ar yr anifeiliaid. I’r perwyl hwn, yn ogystal â darparu gwybodaeth wrth harbyrau a safleoedd lansio cychod eraill, mae Cyngor Sir Ceredigion hefyd yn gweithio’n agos gydag ysgolion lleol gan godi ymwybyddiaeth a hybu parch a dealltwriaeth o’r anifeiliaid a geir yn AGA Bae Ceredigion.

Ffotograff gan Melanie Heath