Creigresi

Yn Ardal Gadwraeth Arbennig Bae Ceredigion, mae creigresi creigiog (lle y mae cymunedau o anifeiliaid a phlanhigion yn datblygu ar glogfeini sefydlog neu greigiog neu gerrig crynion) a “chreigresi biogenetig” (lle y mae’r anifeiliaid eu hunain yn creu strwythur y creigresi). Mae’r creigresi sydd yn y Bae ran fwyaf ar ffurf clogfeini, cerrig crynion a cherrig mân, ond mae ardaloedd creigwelyau weithiau ar hyd y traethau ac ychydig bellter o’r lan.

Mae rhan fawr o greigres yn ymestyn tua’r gogledd a’r gogledd-ddwyrain o Ben Cemaes ac Ynys Aberteifi. Mae rhan arall o greigres yn ymestyn o Ynys Lochtyn gan fynd yn ddi-dor bron hyd at ymyl yr Ardal Gadwraeth Arbennig yn Aberarth (gweler y map). Cyfnodwyd cyfanswm o 48 o fïoteipiau creigresi (rhynglanw ac is-lanw) yn yr Ardal Gadwraeth Arbennig. Mae creigresi biogenetig y llynghyren ddiliau Sabellarai alveolata yn gyffredin yn y cynefin rhynglanw a bas, yn enwedig yng ngogledd-ddwyrain y safle.