Lampreiod neu Llysywod pendoll yr afon a’r mor
Lampreiod neu Llysywod pendoll yr afon a’r mor (Lampetra fluviatilis)
& (Petromyzon marinus)
Cefndir: Mae lampreiod yn fath hynafol, cyn hanesyddol o bysgod. Maent yn unigryw gan fod ganddynt sugnolion o amgylch eu cegau sugno, yn hytrach na genau. Maent yn hollol wahanol i unrhyw rywogaethau pysgod eraill ym Mhrydain neu Iwerddon.
Ceir lampreiod ledled y DU. Fodd bynnag, yn ystod y ganrif ddiwethaf a hon, mae’r cynefinoedd y maent yn dibynnu arnynt wedi dioddef amrywiaeth o effeithiau, gan gynnwys llygredd, newid defnydd tir a pheirianyddu afonydd. Gall llygredd gael effaith wenwynig uniongyrchol, a gall llaid o’r tir o’i amgylch fygu cynefinoedd bridio pwysig. Gall peiriianyddu afonydd gael gwared ar ardaloedd meithrin pwysig. Gall coredau artiffisial ac argaeau rwystro mudo i gynefinoedd bwydo a bridio.
Prin iawn yw’r wybodaeth am amlder a dosbarthiad lampreiod o fewn AGA Bae Ceredigion. Fodd bynnag, mae pysgotwyr sy’n ar afonydd Teifi ac Aeron yn dweud bod llysywod y môr a llysywod yr afon wedi’u dal ers cenedlaethau ac mae cofnodion diweddar yn dangos y ddwy rywogaeth yn Afon Teifi.
Mae pob rhywogaeth o lamprai yn bwrw sil mewn dŵr croyw yn y gwanwyn/dechrau’r haf (gan ddibynnu ar y rywogaeth). Dilynir hyn gan gyfnod larfal (cyfnod ammocoetes) a dreulir mewn gwelyau silt a llaid addas mewn nentydd ac afonydd. Ar ôl trawsnewid i’r oedolyn mae llysywen yr afon a llysywen y môr yn bwydo’n barasitig ar amrywiaeth o bysgod. Mae lampreiod y cyfnod larfal ac ifainc yn ffynhonnell fwyd bwysig i lawer o adar a physgod. Aseswyd bod dwysedd cymedrig y lampreiod sy’n bresennol yn Afon Teifi, mewn ardaloedd lle ceir y cynefin gorau ac isoptimaidd, yn is na’r hyn a ystyrir yn ffafriol gan JNCC, y Cydbwyllgor Cadwraeth Natur.
Ammocoetes (larval stage of lamprey)
@Ross Gardiner, Fisheries Research Services



Sut allwch chi helpu?
Weithiau mae lampreiod yn cael eu dal wrth bysgota am bysgod breision neu eog. Os ydych yn dal un, dychwelwch hi i’r afon cyn gynted ag y bo modd gyda chyn lleied â phosibl o’i thrin. Gwelir lampreiod hefyd yn gyffredin ar eu gwelyau silio – Rhowch wybod i ni os byddwch yn eu gweld drwy gysylltu â’r Swyddog Ardal Forol Gwarchodedig Bae Ceredigion drwy anfon e-bost at melanie.heath2@ceredigion.gov.uk
Ffeil ffeithiau Lampreiod neu Llysywod Pendoll yr Afon a’r Môr
Cylch bywyd: Mae llysywod pendoll ifainc (ammocoetes) yn byw wedi’u claddu yn y gwelyau silt ar hyd ymylon afonydd dŵr croyw, lle mae’r dŵr yn llonydd. Maent yn ddall, nid oes ganddynt ddisg geneuol ac meant yn bwydo ar gronynnau bychain yn y dŵr. Ar ôl sawl blwyddyn o dwf larfaol, maent yn gweddnewid i ffurf oedolion y llysywod pendoll ac yn mudo i ardaloedd meithrin.
Nodiadau ar adnabyddiaeth: Mae llysywod pendoll ymhlith y mwyaf cyntefig o’r holl anifeiliaid anifeiliaid asgwrngefn. Mae eu hysgerbwd wedi’u gwneud o gartilag yn hytrach nag esgyrn a cheg sugno noddwediadol yn hytrach na genau. Mae eu cyrff ar ffurf llysywod ond nid oes ganddynt cennau. Mae gan yr oedolion ddwy asgell ar eu cefnau, sy’n aml yn ddi-dor gyda’r asgell gynffon hir. Nid oes cloriau dros eu tegyll sef yn cynnwys un rhes ar bob ochr i’r pen.
Oedolion Llysywod Pendoll y Môr:
hyd: > 45cm
lliw: cefn ac ochrau brith
geg: dannedd ar ddisg geneuol yn agos at resi ymestynnol.
Oedolion Llysywod Pendoll yr Afon:
hyd: Hyd oedran silio >17cm ond <50cm
lliw: cefn ac ochrau lliw unffurf
ceg: disg geneuol gylchol, gyda ond ychydig o ddannedd di-awch.
Mae oedolion llysywod pendoll yr afon a’r môr yn mudo i aberoedd neu’r môr, lle maent yn parasitig ar bysgod eraill. Maent yn dychwelyd i ddŵr croyw er mwyn bwrw sil, sy’n digwydd yn ystod y gwanwyn a dechrau’r haf, fel arfer mewn gwelyau cerrigiog neu graeanog o ddŵr sy’n llifo’n gyflym. Nid yw’r oedolion yn bwydo mewn dŵr croyw, a mae nhw’n marw ar ôl silio.