Banciau tywod
Yn bennaf, mae banciau tywod ACA Bae Ceredigion yn isel ac yn fwyaf cyffredin yn nwyrain y safle, i’r gogledd ac i’r gorllewin o Gei Newydd (gweler y map isod). Mae banciau tywod yn bwysig, nid yn unig o ran ystod ac amrywiaeth y mathau o gymuned sydd yn bresennol, ond hefyd o ran y rôl bwysig y maent yn ei chwarae yn y we fwyd ac yng nghyfanrwydd strwythurol ehangach y cynefinoedd o’u hamgylch
Canfuwyd bod amrywiaeth rhywogaethau banciau tywod yn yr ACA yn uchel iawn. Cafodd safleoedd Cei Newydd eu cynnwys mewn is-grŵp a oedd yn cynnwys yr wyth lleoliad mwyaf cyfoethog o ran rhywogaethau yng Nghymru. Mae ychydig dros 70% o’r cyfanswm 618 tacsonau a gofnodwyd yn perthyn i’r is- grŵp. Mae hyn yn cynnwys y perdysen fantis sy’n brin yn genedlaethol Rissoides desmaresti (gweler y ddelwedd isod).



