Ymweliadau ysgol
Mae ymweliadau maes i’r traeth tywodlyd neu greigiog lleol yn cynnig cyfleoedd gwych ar gyfer gwaith pwnc trawsgwricwlaidd, yn cynnig y cyfle i wneud rhywbeth gwahanol ac ysbrydoledig ac yn sicrhau bod cyfleoedd gwych ar gael ar gyfer dysgu aml-synhwyraidd.
Gall ymweliad ar y lan hefyd ysbrydoli’r plant gyda’u dysgu drwy ddarparu cyfleoedd i gymryd rhan mewn prosiectau ‘gwyddoniaeth go iawn’ lle gallant gyfrannu eu darganfyddiadau i gynlluniau casglu data bywyd y môr Cenedlaethol a gwella eu hymdeimlad o le a balchder yn eu hardal leol.
Bob blwyddyn mae disgyblion o ysgolion cynradd ger AGA Bae Ceredigion yn ymweld â’u traeth neu lan leol i archwilio, darganfod a mwynhau’r bywyd gwyllt sydd i’w weld yno.
Mae Ysgol Cei newydd, Ysgol Bro Sion Cwilt, Ysgol Aberaeron, Ysgol Craig-yr-Wylfa ac Ysgol Aberporth i gyd yn mynychu sesiynau ar eu glannau lleol i wella eu dealltwriaeth o pam fod Bae Ceredigion yn lle mor arbennig.





