Ogofâu môr

Mae cyfanswm ogofâu môr o fewn yr ACA yn anwybyddus. Fodd bynnag, mae clogwyni’r ACA yn bennaf yn cynnwys lechi, cerrig clai, tywodfaen a cherrig llaid Ordofigaidd sy’n tueddu i gael haenau meddalach rhwng rhai caletach. Felly ffurfiwyd ogofâu môr yn gyffredin. Mae ogofâu môr felly yn niferus o fewn y safle (wedi eu marcio mewn coch ar y map i’r dde).

Fe’u cytrefu fel arfer gan rywogaethau anifeiliaid sy’n crawennu ac mae arolwg lleol hefyd wedi canfod presenoldeb yr algâu Naccaria wiggii, a’r falwoden Otina ovata ac yn ogystal o bosib y coryn ogofau Meta menardi, a nodir ar gyfer eu diddordeb cadwraethol.

Mae rhai o’r ogofâu môr hefyd yn cael eu defnyddio gan forloi fel safleoedd I fwrw lloi.