Gwirfoddoli
Mae gwirfoddolwyr yn gwneud cyfraniad enfawr at warchod amgylchedd morol Bae Ceredigion.
Beth am ymuno â’r tîm a chymryd rhan mewn gweithgareddau fel casglu data gwerthfawr ar ddolffiniaid, llamhidyddion a frân goesgoch yn Ardal Gadwraeth Arbennig Bae Ceredigion?
Mae tua
o wirfoddolwyr y flwyddyn yn ein helpu i gasglu data pwysig sy’n hanfodol i’n gwaith reoli trafnidiaeth cychod yn AGA Bae Ceredigion.

“Mae’n fraint cael bod yn rhan o’r arolwg hwn. Ni ellir cael enaid byw nad yw’n gwirioni i weld dolffiniaid yn chwarae, yn neidio, neu yn nofio’n esmwyth. Gwylio delweddau ar y teledu sydd ar gaeil i’r rhan fwyaf ohonom, sy’n wych. Ond i’w gweld yn iawn yno o’ch blaen chi, ychydig gannoedd o fetrau i ffwrdd (neu lai), i’w gweld yn codi sglefren fôr ac yn ei thaflu i’w gilydd, yn rhywbeth sy’n aros gyda chi. Mae’r eiliadau hynny’n gwneud i fyny am y diwrnodau pan nad ydynt yn ymddangos, ond hyd yn oed wedyn, mae’n ffordd wych o dreulio ychydig o oriau, yn syllu allan ar y môr a gwrando ar y tonnau, yr adar, yn mwynhau’r heddwch. Ar ben yr holl bleser hwnnw mae’r cyfro y gallwch gyfrannu mewn rhyw ffordd fach i helpu gwarchod yr anifeiliaid gwych hyn.”

Ffotograff gan David Cunniffe
“Mae bod “o dan glo” yn ddwysa’r llawenydd o gymryd rhan mewn gwylio dolffiniaid. Hyd yn oed os yw’r dolffiniaid yn penderfynu peidio dangos mae’r pleser pur o wylio’r môr cyfnewidiol ar hyd arfordir mor hardd bron tu hwnt i eiriau. Allwn ni ddim aros i fynd yn ôl at Graig yr Adar.”

Gwylio dolffiniaid
I’r rhai sydd â dwy awr yr wythnos yn rhydd yn ystod misoedd yr haf ac a fyddai wrth eu boddau’n cael cyfle i weld dolffiniaid yn y gwyllt yn rheolaidd, beth am gymryd rhan yn y gwaith o Wylio Dolffiniaid a Llamidyddion”? Byddwch yn rhan o dîm penodedig sy’n astudio’r berthynas rhwng traffig cychod lleol a sut mae dolffiniaid trwynbwl a llamidyddion yn defnyddio’r ardal, sy’n ein helpu i wneud penderfyniadau ystyriol am y modd rydym yn rheoli gweithgareddau hamdden ar y dŵr yn yr A.G.A. Mae hyfforddiant llawn ar gael, a bydd rhywun bob amser ar alwad i’ch helpu.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Swyddog Ardal Forol Warchodedig Bae Ceredigion, Melanie Heath trwy melanie.heath2@ceredigion.gov.uk neu ffoniwch 01545 561074.

