Beth yw’r ACA?
Sefyliad Ardaloedd Cadwraeth Arbennig
Rhoddodd Uwchgynhadledd y Ddaear Rio de Janeiro 1992 Rio fioamrywiaeth yn gadarn ar yr agenda wleidyddol fyd-eang. Yn ymateb, mabwysiadwyd y Gyfarwyddeb Cynefinoedd Ewropeaidd i greu rhwydwaith o safleoedd gwarchodedig, sef y rhwydwaith Natura 2000 (N2K). Mae ACA Bae Ceredigion yn rhan o’r rhwydwaith hwn.
Sefydlwyd Arfordir Treftadaeth Forol Ceredigion ym 1992 i helpu i warchod yr arfordir a’i fywyd gwyllt, ac yn 2004 dynodwyd Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACAau) Bae Ceredigion a Phen Llŷn a’r Sarnau yn ffurfiol.
Mae’r moroedd ledled Cymru yn cynnwys helaethrwydd o fywyd morol o bwysigrwydd cenedlaethol a rhyngwladol; maent mor bwysig fel bod llawer o arfordir Cymru bellach wedi’i ddynodi’n Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACAau).
Sut mae’n cael ei reoli?
Nod yr ACA yw cynnal ei bywyd morol cyfoethog ac amrywiol mewn cyflwr sydd o leiaf cystal â phan ddynodwyd y safle gyntaf, gyda’r nod o ddod â phob rhywogaeth ddynodedig i ‘ Statws Cadwraethol Ffafriol ‘. Nid yw hyn yn golygu na allwn barhau i ddefnyddio a mwynhau adnoddau naturiol yr ardal, ond bod yn rhaid cynnal unrhyw weithgareddau mewn modd cynaliadwy.
Cydlynir rheoli’r ACA gan y Swyddog ACA drwy’r Grŵp Awdurdodau Perthnasol (RAG) sydd yn gorff o sefydliadau ac awdurdodau sydd â cyfrifoldebau cyfreithiol penodol i ofalu am y safle. Mae cynllun rheoli ar gyfer yr ACA yn cynnwys yr holl waith sydd angen ei wneud er mwyn gofalu am y safle a’r rhywogaethau a’r cynefinoedd gwarchodedig sydd i’w gweld yma.
Un o’r ffyrdd pwysicaf allwn ofalu am y safle yw esbonio i bobl pam y mae’r ACA yn lle mor arbennig. Mae gennym Ganolfan Ymwelwyr ar wal harbwr Cei Newydd ac mae Swyddog yr ACA yn cynnal digwyddiadau a gweithgareddau drwy gydol y flwyddyn gyda’r cyhoedd a grwpiau o ysgolion lleol. Gobeithiwn y bydd pobl wedyn yn datblygu gwell ddealltwriaeth o faint mor arbennig yw Bae Ceredigion, ac y bydd arnynt eisiau helpu i warchod y cynefinoedd a’r rhywogaethau sydd i’w gweld yma.
Er mwyn cysylltu â Swyddog yr ACA, cysylltwch â Melanie Heath
melanie.heath2@ceredigion.gov.uk


Dolffiniaid trwynbwl
Ffotograff gan David Cunniffe