Nodwyd pedair rhywogaeth o anifeiliaid a thri chynefin o bwysigrwydd Ewropeaidd yn Ardal Gadwraeth Arbennig Bae Ceredigion. Dynodwyd y safle’n wreiddiol gan fod y boblogaeth fwyaf o ddolffiniaid trwynbwl yn Ewrop yn byw y bae. Ers hynny daeth i’r amlwg fod y safle hefyd yn cynnwys nifer sylweddol o lampreiod yr afon, lampreiod y môr a morloi llwydion, yn ogystal ag enghreifftiau pwysig o gynefinoedd ar ffurf riffiau, banciau tywod dan y llanw ac ogofeydd tanddwr. Mae’r dynodiad erbyn hyn yn cydnabod y rhain i gyd.

Mae cynnwys y cynefinoedd yn y dynodiad yn bwysig – nid gwarchod y cynefinoedd corfforol yn unig yw’r bwriad ar y safle, ond hefyd yr amrywiaeth rhyfeddol o anifeiliaid a phlanhigion sy’n byw ynddynt (neu ys dywed y gwyddonwyr, y ‘cyfosodiadau biolegol ac integredd ecolegol’). Nid y pedair rhywogaeth a enwir yn unig sy’n cael eu gwarchod, ond ecosystem o filoedd o rywogaethau; mae Bae Ceredigion yn ferw o fywyd – cliciwch ar y rhestr o nodweddion diddorol i ddarganfod mwy.